Llywodraeth Cymru Cefn Gwlad
@LlCCefnGwlad
Cyfrif swyddogol @LlywodraethCym ar gyfer materion gwledig. For English, follow 👉 @WGRural
Ydych chi am gynnal diwrnod Fferm Agored gydag ymwelwyr? Ewch am gyngor arbenigol gan @APHAgovuk a @IechydCyhoeddus a chroesawu gwesteion yn hyderus! ✅ Profiadau diogel i ymwelwyr ✅ Canllawiau Cod Ymarfer y Diwydiant ✅ Gwybodaeth ac awgrymiadau 🗓️10am 24 Gorff 📍@NFUCymru

Mae'r Neuadd Fwyd bob amser yn uchafbwynt pob Sioe Frenhinol. Diolch i'r holl gynhyrchwyr gwych y mae'r Dirprwy Brif Weinidog, @Huw4Ogmore wedi cwrdd a nhw yn ystod ei daith gerdded o gwmpas. 🙌 #YSioe #SioeFrenhinol @RoyalWelshShow




Datblygu'r Diwydiant Pren - nod ein strategaeth yw cynyddu nifer a gwerth y pren a dyfir a chynhyrchion pren a gynhyrchir yng Nghymru. Bydd mwy o ddefnydd o bren mewn adeiladu yn sicrhau dyfodol y sector coedwigaeth, gan gefnogi buddsoddiad, swyddi a gwell canlyniadau carbon.
Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies yn cyhoeddi fod Cymru’n rhagori ar ei tharged adfer mawndir, gan adfer dros 3,600ha o fawndir oedd wedi’i ddifrodi – sy’n cyfateb i fwy na 3,600 o gaeau rygbi – mewn dim ond pum mlynedd. @natreswales @newidhinsawdd @royalwelshshow
🏉🔴 Pob tro yn bleser cael croesawu bois @scarlets_rugby i'n pafiliwn yn y Sioe Fawr, a da cael cwmni @WGRural @huw4ogmore hefyd! 🏉🔴 Always a pleasure to welcome @scarlets_rugby to the pavilion during the Royal Welsh!
Rwy'n falch o gefnogi'r ymgyrch #DoNotWaitVaccinate. Mae'r Tafod Glas yn bygwth ein da byw ond mae gennym frechlynnau BTV-3 diogel, effeithiol ar gael nawr. Siaradwch â'ch milfeddyg heddiw am opsiynau brechu. Gyda'n Gilydd, Gallwn Gadw'r Tafod Glas Allan o Gymru
Roedd hi’n bleser gan y Dirprwy Brif Weinidog, @Huw4Ogmore groesawu cynrychiolwyr o wahanol grwpiau cymunedau ethnig lleiafrifol i Sioe Frenhinol Cymru. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau eich diwrnod yma yn y Sioe.

Effaith £676 MILIWN ar ddiwydiant bwyd a diod Cymru ers 2016! 😲 Mae Prosiect HELIX wedi bod yn drobwynt i ddiwydiant bwyd a diod Cymru dros y degawd diwethaf! 🙌
Arloesol i'r Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru Effaith o £303 miliwn, 188 o swyddi wedi'u creu + 6,131 wedi'u diogelu, 533 o gynhyrchion newydd wedi'u datblygu, 199 o gwmnïau wedi'u cefnogi (103 o fusnesau newydd!) Gall Rhaglen HELIX drawsnewid eich busnes 🔗 #BDCymruSFC2025
Mae wedi bod yn ddiwrnod gwych yma yn y Sioe Frenhinol. Dyma rai o uchafbwyntiau'r Sioe ar Ddiwrnod 1! #YSioe
Diolch i'r Cadeirydd sy'n gadael Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, @StephenJames_1 am ei arweinyddiaeth ragorol. Mae eich ymroddiad i wella lles anifeiliaid ledled Cymru wedi gwneud gwir wahaniaeth. Dymuniadau gorau ichi ar gyfer y dyfodol! 🍰

Gwrandewch ar beth sydd gan y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies @Huw4Ogmore i'w ddweud am yr hyn sy'n addo i fod yn Sioe Frenhinol wych arall.
Rydym yn falch o gefnogi Wythnos Diogelwch Fferm 2025 @yellowwelliesUK y Sefydliad Diogelwch Fferm. Cadwch lygad allan am lawer o wybodaeth, cyngor a gweithgareddau o amgylch Maes y Sioe Frenhinol ar sut i gadw'n ddiogel o amgylch y fferm.

📑Yr wythnos diwethaf fe wnaethom gyhoeddi'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae'n cynrychioli perthynas newydd rhwng pobl Cymru a ffermwyr.🤝 🧑💼👩💼Mae ein staff cyfeillgar wrth law yma yn ein pafiliwn a byddant yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ar yr SFS.



Mae'n wych bod yn ôl ar Faes y Sioe Frenhinol ar gyfer uchafbwynt y calendr gwledig – y Sioe Frenhinol. 🙌 Mae'n dawel nawr ond rydyn ni'n gwybod na fydd hi fel hyn am hir! Os ydych chi'n dod i'r Sioe yr wythnos hon, gobeithio y cewch amser anhygoel! 🙂 #YSioe
🎥Roedd y Dirprwy Brif Weinidog, @Huw4Ogmore yn falch o annerch y cyfryngau yn ystod y gynhadledd i'r wasg arferol cyn y Sioe Frenhinol y prynhawn yma.

Mae ein Canllaw Cyflym ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru Cyfrifwch eich Taliad Cyffredinol dangosol o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Gwiriwch yr hyn allai eich fferm ei gael yn 2026 👇 ow.ly/Izss50WsjL7

Mae cynefinoedd yn cefnogi bywyd gwyllt, storio carbon ac yn helpu'ch fferm i ffynnu. Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gofyn am gynefin o 10% - ond mae eich glaswelltiroedd, coetiroedd a gwrychoedd presennol yn cyfrif! Yn ogystal, byddwch yn derbyn taliadau fesul hectar.
Rydym hanner ffordd drwy'r cyfnod ymateb i'r ymgynghoriad EID Gwartheg. Diolch i bawb sydd wedi mynegi eu barn hyd yn hyn. Heb ymateb eto? Mae dal amser! Mae eich adborth yn helpu i lunio'r broses o olrhain gwartheg yng Nghymru. Yn cau: 14 Awst 2025
🗣️ Dweud eich dweud ar EID Gwartheg yng Nghymru. Rydyn ni'n gofyn am eich barn ar gynlluniau i gyflwyno dyfeisiau Adnabod Electronig ar gyfer Gwartheg (EID Gwartheg) yng Nghymru. Ymgynghoriad yn cau: 14 Awst 2025👇 👇 llyw.cymru/gweithredu-tre…