Llywodraeth Cymru Newid Hinsawdd
@NewidHinsawdd
Cyfrif swyddogol @LlywodraethCym ar gyfer newid hinsawdd. For English follow 👉 @WGClimateChange
Drwy ymarfer arnofio mewn amgylchedd diogel dan oruchwyliaeth, byddwch chi’n fwy parod ar gyfer argyfwng. Ffeindiwch eich Fflôt ar gyfer Diwrnod Atal Boddi'r Byd ar 25 Gorffennaf a dysgwch sgil hunan-achub hanfodol. Darganfyddwch sut 👇 shorturl.at/A1z4g #AtalBoddi

Felly, yn anffodus, mae'r Sioe Frenhinol yn dod i ben.😭 Ond am wythnos mae hi wedi bod! 😃 Mae'n amhosibl cynnwys yr holl uchelbwyntiau mewn rîl ond dyma'n cynnig gorau! 🎞️ Beth am wneud y cyfan eto yn 2026! 🙌
Mae'r Cylchlythyr Gweithredu ar Hinsawdd allan! Does dim ffordd well o gadw i fyny â'r hyn rydyn ni'n ei wneud i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Ni all neb wneud popeth, ond gall pawb wneud rhywbeth, felly cofrestrwch yma: llyw.cymru/tanysgrifiwch-…
Datblygu'r Diwydiant Pren! Bydd ein Strategaeth Ddiwydiannol Pren newydd yn: 👷♀️ Creu swyddi sgilgar 🏡 Helpu adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel 🍃 Storio carbon am genedlaethau Gweler llyw.cymru/coedwigaeth am fwy!
Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies yn cyhoeddi fod Cymru’n rhagori ar ei tharged adfer mawndir, gan adfer dros 3,600ha o fawndir oedd wedi’i ddifrodi – sy’n cyfateb i fwy na 3,600 o gaeau rygbi – mewn dim ond pum mlynedd. @natreswales @newidhinsawdd @royalwelshshow
Yn sôn am adroddiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol, dywedodd @Huw4Ogmore "Rydw i'n croesawu'r adroddiad ar ddyfodol dŵr ac y cyfle unwaith mewn cenhedlaeth y mae hyn yn ei ddarparu. Diolch i Syr Jon Cunliffe a'r Comisiwn am 9 mis o ymgysylltu eang." llyw.cymru/datganiad-ysgr…

Yn cynharach yr wythnos yma, daeth cynrychiolwyr o @ukyouth4nature i'r y Senedd i gwrdd â @Huw4Ogmore, i siarad am eu gwaith ymgyrchu yn galw am fwy o waith ddiogelu ecosystemau dŵr croyw. Diolch am ddod i gywrdd â'r Dirprwy Brif Weinidog!
Rydym yn cynllunio buddsoddi hyd at £5m i wella seilwaith gorsaf bwmpio Dŵr Cymru, wrth edrych ar gyfrifoldebau hirdymor. Newyddion gwych i gymunedau lleol, bywyd gwyllt a thwristiaid sy'n caru'r gamlas hanesyddol hon. llyw.cymru/datganiad-ysgr…

O ddysgu bowliau i dyfu cymunedau. 🌳 Mae gardd cymunedol Blaenau Gwent FM a Chlwb Bowlio Abertileri yn dangos sut mae gwobrau Baner Werdd yn dathlu'r hyn sy'n gwneud cymunedau'n arbennig. 💚 Aeth @huw4ogmore i weld am ei hun. #CaruCymru #BanerWerddCymru #GwobrBanerWerdd
Mae Llywodraeth Cymru â Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn cynnig lleoliadau gwaith chwe mis o hyd â thâl i’ch helpu i gymryd eich camau cyntaf i’r byd peirianneg amgylcheddol. forms.office.com/e/nUbXWiCWYL
👂 Rydyn ni wedi gwrando ac wedi gweithredu. Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cynnwys ‘Gweithred Gyffredinol’. Rydym wedi adolygu a mireinio ein dull i sicrhau bod y Gweithredoedd hyn yn ymarferol i bawb. Gwyliwch y fideo hwn i gael rhagor o wybodaeth am blannu coed. 🌲👇
Mae Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir, 'cam hollpwysig ymlaen' wrth ddiogelu cymunedau Cymru rhag hen domenni diwydiannol, wedi'i gymeradwyo gan Senedd Cymru. llyw.cymru/y-senedd-yn-pa…

🤝 Cynllun Ffermio Cynaliadwy: canlyniad cydweithredu Y weledigaeth: Sector amaethyddol sy’n hyderus a ffyniannus, fydd yn arloesi ac yn tyfu. Rydyn ni wedi gwrando’n ofalus a datblygu cynllun sy’n gweithio er lles ffermwyr ac sy’n diwallu anghenion pawb. #CefnogiEinFfermwyr
Dyma gyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. O 2026, bydd yn helpu ffermwyr i: ✅ Gynhyrchu bwyd o’r radd flaenaf ✅ Gofalu am yr amgylchedd ✅ Gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd Gan ddiogelu dyfodol ffermio yng Nghymru am genedlaethau i ddod.
Adroddiad pwysig gan yr arbenigwyr yn yr hinsawdd 🌍 x.com/metoffice/stat…
The Met Office #StateOfUKClimate Report for 2024 demonstrates how weather records and temperature and rainfall extremes are becoming increasingly frequent in the UK Scroll through some key findings from the report ➡️ Learn more: metoffice.gov.uk/about-us/news-…
Rydym yn pweru prosiectau ynni gwyrdd newydd 🍃⚡ Mae Trydan Gwyrdd Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer tri phrosiect ynni adnewyddadwy newydd, gyda'r potensial i gynhyrchu digon o drydan glân i bweru anghenion trydan cyfartalog blynyddol 350,000 o gartrefi yng Nghymru.
Mae disgwyl i rannau o Gymru brofi tymeredd uchel iawn dros y penwythnos a chychwyn wythnos nesaf. Gall tywydd poeth achosi risgiau iechyd difrifol - dyma awgrymiadau i'ch cadw'n ddiogel yn y gwres 👇 🔗 icc.gig.cymru/gwasanaethau-a…
Yn ystod tywydd poeth, mae gwybod sut i gadw'n ddiogel yn gallu achub bywydau. #DiogelwchDwr x.com/Water_Wales/st…
🚨 Cadwch yn ddiogel yr haf yma! 🚨 Wrth i'r tymheredd godi, mae diogelwch dŵr yn hanfodol. Mae ymchwil yr RLSS yn dangos bod mwy yn boddi yn ystod tywydd poeth, yn enwedig pobl ifanc yn eu harddegau. Mae gwybod sut i gadw'n ddiogel yn gallu achub bywydau. Rhannwch y neges yma!