Bwyd a Diod Cymru
@bwydadiodcymru
Sianel swyddogol Is-Adran Fwyd, Llywodraeth Cymru 🍽️ Yn sicrhau fod y diwydiant yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau a chymorth. @FoodDrinkWales
Felly, yn anffodus, mae'r Sioe Frenhinol yn dod i ben.😭 Ond am wythnos mae hi wedi bod! 😃 Mae'n amhosibl cynnwys yr holl uchelbwyntiau mewn rîl ond dyma'n cynnig gorau! 🎞️ Beth am wneud y cyfan eto yn 2026! 🙌
Y Dirprwy Brif Weinidog yn gwledda ar lwyddiant yn Arddangosfa Fwyd Sioe Frenhinol Cymru. "Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn gonglfaen i'n heconomi ac yn ffynhonnell balchder cenedlaethol aruthrol." - DBF Huw Irranca-Davies. 🔗 llyw.cymru/y-dirprwy-brif… #BDCymruRWS2025

Ystyried Ardystiad B Corp? Mae'r Clwstwr Cynaliadwyedd yn rhan o raglen glwstwr Bwyd a Diod Cymru a'r bwriad yw cefnogi twf drwy annog y diwydiant i gydweithio a gwella cysylltedd. 📧 [email protected] #BDCymruRWS2025 #BCorpCymru

O wneuthurwr bach o Gymru i arweinydd B Corp ardystiedig. Ers cyflawni ardystiad B Corp yn 2021, mae'r gwneuthurwr byrbrydau hwn o ogledd Cymru wedi cryfhau teyrngarwch cwsmeriaid wrth aros yn driw i'w wreiddiau entrepreneuraidd. 🔗 food-drink.wales/cy/busnes/egin… #BDCymruRWS2025

Ardystiad B Corp. Mae taith Pembrokeshire Lamb yn dangos sut y gall busnesau arwain ar gynaliadwyedd. Y canlyniad? Anifeiliaid iachach, ecosystemau wedi'u hadfer, a model busnes sy’n ffynnu. Dyma ddyfodol masnach gyfrifol. #BDCymruRWS2025 #BCorpCymru #BusnesCynaliadwy

O hen Aga yn 1997 i fyrddau mewn priodasau brenhinol a chegin Barack Obama. Ardystiedig B Corp - Halen Môn yn dangos sut nad amddiffyn ein planed yn unig mae arferion busnes cynaliadwy—maen nhw’n creu straeon llwyddiant eithriadol. #BDCymruRWS2025 #BCorpCymru

Dewch i gwrdd â'r Rebeliaid yn Tiny Rebel Brewing sy'n profi y gall cwrw gwych a gwerthoedd gwych fynd law yn llaw. Mae pob peint sy’n cael ei werthu’n cefnogi eu pobl, eu cymuned, a'u planed. Dyma sut olwg sydd ar y gwrthryfel. #BDCymruRWS2025 #BCorpCymru #BraguCynaliadwy

Arloesol i'r Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru Effaith o £303 miliwn, 188 o swyddi wedi'u creu + 6,131 wedi'u diogelu, 533 o gynhyrchion newydd wedi'u datblygu, 199 o gwmnïau wedi'u cefnogi (103 o fusnesau newydd!) Gall Rhaglen HELIX drawsnewid eich busnes 🔗 #BDCymruSFC2025

Mae Golden Hooves yn dangos sut y gall busnesau amaethyddol arwain adferiad amgylcheddol wrth gynnal llwyddiant masnachol. Mae ardystiad B Corp yn darparu'r fframwaith ar gyfer effaith gynaliadwy ddilys. #BDCymruRWS2025 #BCorpCymru #AmaethyddiaethAdfywiol

👉 Sylwch y bydd ffenestr bresennol y Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd yn cau i geisiadau ar 31 Gorffennaf 2025. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn. 🔗 llyw.cymru/cynlluniau-gwl…
Cysoni egwyddorion ag athroniaeth. Arweiniodd angerdd am fêl pur, cynaliadwy Hilltop Honey i fod yn frand mêl ardystiedig B Corp cyntaf y DU sy'n dangos sut mae busnes â phwrpas nid yn unig yn dda i'r blaned - mae'n dda ar gyfer twf. #BDCymruRWS2025 #BCorpCymru

🍦☀️ Mwynhewch yr haf – mae’n #DiwrnodCenedlaetholHufenIâ! Dathlwch gyda chôn (neu ddau) o hufen iâ o Gymru, wedi’i greu’n ofalus ac yn llawn blas. P’un a ydych chi wrth y môr neu yn eich gardd, dyma’r ffordd berffaith i oeri. #BwydDiodCymru

Beth pe bai eich saws tomato’n gallu newid y byd? Drwy ddewis cynhyrchion gan gwmnïau ardystiedig B Corp fel The Welsh Saucery, rydych chi'n pleidleisio dros: Cyfrifoldeb amgylcheddol, Arferion cyflogaeth teg, Buddsoddiad cymunedol, Llywodraethu tryloyw. #BDCymruRWS2025

Arwain newid, un gwpan ar y tro. Fel arloeswyr mewn cynhyrchu coffi cynaliadwy, mae Coaltown Coffee yn gweithio gydag arweinwyr y diwydiant i ddatblygu arferion gwyrdd arloesol sy'n fuddiol i bawb o'r fferm i'r gwpan. Barod i ymuno â'r mudiad? #BDCymruRWS2025 #BCorpCymru

Nid gwneud rhywbeth da yw unig ddiben ardystiad B Corp—mae'n strategaeth fusnes glyfar. Daeth Drop Bear Beer Co. yn fragdy B Corp cyntaf Cymru a gwelodd ei enw da’n codi mewn marchnadoedd cystadleuol. Barod i drawsnewid effaith eich busnes chi? #BDCymruRWS2025 #BCorpCymru

Nid cam-gymeriad yw hwn. Mae Flawsome! yn talu prisiau teg am sbarion a chynhyrchion cam, gan greu ffrydiau incwm newydd i ffermwyr ledled Ewrop. Mae ardystio busnes cynaliadwy’n agor drysau i bartneriaethau pwrpasol. #BDCymruRWS2025 #BCorpCymru #GwastraffBwyd

Arloesedd yn cwrdd â thraddodiad. Mae Barti Rum yn cyfuno dulliau cynaeafu gwymon canrifoedd oed ag arferion busnes cynaliadwy modern. Mae eu hardystiad B Corp yn dangos sut y gall busnesau anrhydeddu treftadaeth wrth adeiladu dyfodol gwell. #BDCymruRWS2025 #BCorpCymru

Mae busnesau ardystiedig B Corp Cymru yn adeiladu economi sy'n cael ei harwain gan werthoedd sy'n fuddiol i bawb. Dewiswch B Corp. Cefnogwch fusnesau Cymru sy'n malio. Gyda'n gilydd, rydym ni’n creu dyfodol lle mae llwyddiant busnes yn golygu llwyddiant cymunedol. #BDCymruRWS2025
📣 Lleoedd ar gael! Digwyddiad Masnach Bwyd a Diod yn Anuga, Cologne. Ddiddordeb? 👉 Cysylltu â ni nawr: businesswales.gov.wales/foodanddrink/s… #BwydDiodCymru

Sioe Frenhinol Cymru 21 -24 Gorffennaf. Dros 65 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru yn arddangos yn y Neuadd Fwyd, yn cynnwys llawer o gynhyrchwyr GI enwog Cymru. Dewch i Gwrdd â’r Gwneuthurwyr a phrofi ansawdd a dilysrwydd bwyd a diod o Gymru. #FDWalesRWS2025 #'BwydDiodCymru