Y Ganolfan Geltaidd
@Ganolfan
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru / University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies
The Swansea Stained Glass Archive is available to the public for the first time. Martin Crampin from CAWCS said: “We’re delighted to make these fascinating works of art available for international researchers and the wider public.” More below 👇 uwtsd.ac.uk/news/swansea-s…
Mae Archif Gwydr Lliw Abertawe ar gael i’r cyhoedd am y tro cyntaf. Meddai Martin Crampin o’r Ganolfan: “Mae’n bleser gennym sicrhau bod y gweithiau celf hynod ddiddorol hyn ar gael i ymchwilwyr rhyngwladol a’r cyhoedd ehangach.” Rhagor o fanylion 👇 uwtsd.ac.uk/cy/news/archif…
📢Darlith Y Bywgraffiadur Cymreig 🗓Dydd Llun 4 Awst 🕔5.00pm 📍Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pabell y Cymdeithasau 🗣Meilyr Emrys yng nghwmni Nic Parry ac Elan Closs Stephens Croeso cynnes i bawb!

Gair y dydd: newyddair geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?n…, sef gair neu ymadrodd newydd ei fathu, bathair. Fel rhan o'n hymgyrch eisteddfodol eleni, gofynnwn i chi feddwl am newyddeiriau Cymraeg a'u rhannu â ni. Pwy a ŵyr, efallai y bydd eich newyddair chi'n cydio, felly rhowch gynnig arni!
Am gyfle arall i wrando ar sgwrs Llywydd y Cyfeillion, yr Athro Mererid Hopwood, ar raglen Aled Hughes bore 'ma, dilynwch y ddolen hon (tua 15:40) bbc.co.uk/sounds/play/m0… Cofiwch anfon eich geiriau atom ni! #dylaifodgairamhyn
✨📚GPC yn yr Eisteddfod Genedlaethol! ✨📚 Gyda llai na phythefnos tan yr Eisteddfod, dyma rannu arlwy'r Wasg ar y maes eleni! Bydd holl gyfrolau’r sesiynau hyn, a llawer mwy, ar gael i’w prynu ar stondin Cyngor Llyfrau Cymru. Fe'ch gwelwn ni chi yn Wrecsam! #Steddfod2025
Weithiau, mae’n anodd dod o hyd i air addas neu ddigonol i ddisgrifio gwrthrych, profiad, &c. Oes ’na eiriau’n eisiau? Bydd Mererid Hopwood yn sôn am gasglu geiriau'n hwyliog ar gyfer cyfarfod Cyfeillion GPC yn yr Eisteddfod ar raglen Aled Hughes bore 'fory! #dylaifodgairamhyn
Looking forward to taking part in this session at 2.15 today @IMC_Leeds on legal authorities in Medieval Wales. Dewch draw i wrando 🏴
GPC app on iOS 18.4 fixed: An error causing crash after launch image under iOS 18.4 onwards has been repaired. The new version is available from the Apple App Store. We apologise for any inconvenience.
Ap GPC ar iOS 18.4 wedi’i drwsio: Mae gwall a rwystrodd yr ap rhag llwytho dan iOS 18.4 ymlaen wedi’i drwsio. Mae’r fersiwn newydd ar gael o App Store Apple. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
1/3 ùir-sgeul | earth story by Eilidh Mackenzie, at the Skye & Lochalsh Archive Centre opened today. Thank you to all the contributors, funders, helpers and visitors today. @HighlandCouncil @CreativeScots @universityofwales @Ganolfan @UofGlasgow @NHM_London @SabhalMorOstaig
85 years ago today - on 19 June 1940 - DIAS was established when President Dubhglas de hÍde signed the Institute for Advanced Studies Act into law. We're marking 85 years of discovery and world-class research! #DIAS85 #DIASdiscovers
Gair y dydd: GWYMON geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?g…. Geiriau eraill cyffredin ers talwm oedd delysg (cytras â’r Wyddeleg duileasc) a morwyal. Yn y Mabinogi disgrifir Gwydion yn creu llong drwy hud ymysg ‘delysc a morwyal’ a throi’r gwymon yn gordwal (lledr drud) er mwyn creu esgidiau.
Cyfle i wrando eto ar yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones @elinhgj yn siarad gyda Vaughan Roderick am y toriadau i ddarlledu Llydaweg ar Radio France 👇 bbc.co.uk/sounds/play/m0…
📻Bu Heather Williams o’r Ganolfan yn siarad gyda Dei Tomos neithiwr am gysylltiadau’r teulu Dufaud o Ffrainc gyda Merthyr. Tua 38:35 munud i mewn i’r rhaglen. Gallwch wrando eto👇 bbc.co.uk/sounds/play/m0…
@CelticStudents diolch yn fawr! I really enjoyed discussing Gruffudd ap Maredudd's 14th-century poem for Owain Lawgoch (Owain ap Tomas ap Rhodri) with you today. Pity there wasn't a happier ending! Hope the rest of the conference goes well. 🤩 @Ganolfan @CymraegAber
Diolch i’r Athro Ann Parry Owen am ddarlith O’Donnell arbennig iawn wythnos ddiwethaf. Gallwch wylio recordiad ar ein sianel YouTube @Collen105 @geiriadur youtu.be/cN8j9KZS-Dc
Gair y Dydd: ysgaw geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?y…. Mae’r coed ysgaw yn eu blodau ar hyn o bryd. Yn ôl Meddygon Myddfai, tua 1400, 'Rac brath neidyr.—Yver sud yscaw yr hwnn a wascara yr holl wenwyn'.
Ail ddarllediad heno [08/06] am 5 @BBCRadioCymru Gerwyn Williams a hanes Cynan fel Sensor, @heyde_jo a'i chyfrol o gerddi, yna Nos Fawrth am 6 ail ddarlledu rhaglen Sul dwytha @Collen105 Ann Parry Owen a hanes Thomas Wiliems, Lyn Ebenezer a'i gerddi ac Alis Hawkins a'i llyfrau
Gair y dydd: GEIRIADUR geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?g… gair sy'n digwydd am y tro cyntaf yng ngeiriadur anferth Lladin-Cymraeg Thomas Wiliems o Drefriw (1604-7) ac a fathwyd ganddo ef. Treuliodd ei oes gwaith yn copïo hen destunau o lawysgrifau gan gasglu tystiolaeth ar gyfer ei eiriadur