Aɳɳ Pαɾɾყ Oɯҽɳ
@Collen105
Cymraes. Barddoniaeth ganoloesol a geiriadura. Athro. Hoffi dysgu pethau newydd. / Welsh lexicography and medieval poetry. @geiriadur @ganolfan
GROWK: ‘To look longingly at something, esp. of a child or dog begging for food’ (dsl.ac.uk/our-publicatio…). An early example in DSL comes from J.B. Salmond’s My Man Sandy (1894): “Nathan was stanin’ at the table as uswal, growk-growkin’ awa’ for a bit o’ my tea biskit.” #Scots
Am gyfle arall i wrando ar sgwrs Llywydd y Cyfeillion, yr Athro Mererid Hopwood, ar raglen Aled Hughes bore 'ma, dilynwch y ddolen hon (tua 15:40) bbc.co.uk/sounds/play/m0… Cofiwch anfon eich geiriau atom ni! #dylaifodgairamhyn
Gair y dydd: rhuddygl geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?r…, llysieuyn poethlym ei flas a ddefnyddid gynt mewn meddyginiaethau. Radish geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?r… yw’n gair arferol heddiw, ond enwau eraill gynt oedd rhaddig, rhodri, rhadicl – y cyfan yn perthyn i’r Lladin radix, radic- ‘gwreiddyn’
Gair y dydd: wyneb i waered geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?a… – mae gennym eirfa gyfoethog yn Gymraeg am fod yn y cyflwr hwn (fel y gwelwch o chwilio’r Saesneg ‘upside down’ ar ein gwefan). Byddai ‘tinben drosben’ yn addas iawn i ddisgrifio’r alarch hon!
Martín Arista, J. 2024. Interface of Old English Dictionaries in Database Format: Toward a Knowldedge Base. In Structuring Lexical Data and Digitising Dictionaries. Grammatical Theory, Language Processing and Databases in Historical Linguistics. Leiden: Brill. 150-183.
Ap GPC ar iOS 18.4 wedi'i drwsio: Mae gwall a rwystrodd yr ap rhag llwytho dan iOS 18.4 ymlaen wedi'i drwsio. Rydym yn dal i weithio ar agweddau eraill ohono. Mae'r fersiwn newydd ar gael o App Store Apple. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
85 years ago today - on 19 June 1940 - DIAS was established when President Dubhglas de hÍde signed the Institute for Advanced Studies Act into law. We're marking 85 years of discovery and world-class research! #DIAS85 #DIASdiscovers
Gair y dydd: GWYMON geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?g…. Geiriau eraill cyffredin ers talwm oedd delysg (cytras â’r Wyddeleg duileasc) a morwyal. Yn y Mabinogi disgrifir Gwydion yn creu llong drwy hud ymysg ‘delysc a morwyal’ a throi’r gwymon yn gordwal (lledr drud) er mwyn creu esgidiau.
Diolch i’r Athro Ann Parry Owen am ddarlith O’Donnell arbennig iawn wythnos ddiwethaf. Gallwch wylio recordiad ar ein sianel YouTube @Collen105 @geiriadur youtu.be/cN8j9KZS-Dc
Ail ddarllediad heno [08/06] am 5 @BBCRadioCymru Gerwyn Williams a hanes Cynan fel Sensor, @heyde_jo a'i chyfrol o gerddi, yna Nos Fawrth am 6 ail ddarlledu rhaglen Sul dwytha @Collen105 Ann Parry Owen a hanes Thomas Wiliems, Lyn Ebenezer a'i gerddi ac Alis Hawkins a'i llyfrau
Mae'r ymgyrch yn parhau i ddiogelu Archifdy Prifysgol Bangor a'r swyddi yno / SAVE YOUR ARCHIVE / ACHUBWCH EICH ARCHIFDY chng.it/XhwxQgGf via @UKChange Anfonwch lythyr at yr Is-ganghellor hefyd os medrwch chi
Gair y dydd: GEIRIADUR geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?g… gair sy'n digwydd am y tro cyntaf yng ngeiriadur anferth Lladin-Cymraeg Thomas Wiliems o Drefriw (1604-7) ac a fathwyd ganddo ef. Treuliodd ei oes gwaith yn copïo hen destunau o lawysgrifau gan gasglu tystiolaeth ar gyfer ei eiriadur
OPEN ACCESS🏆 The Power of Words in Late Medieval Devotional and Mystical Writing: Essays in Honour of Denis Renevey, eds. Rory G. Critten, Juliette Vuille (@Brepols, May 2025) facebook.com/MedievalUpdate… brepols.net/products/IS-97… #medievaltwitter #medievalstudies #medievalreligiosity
Gair y dydd: PENBWL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?p…, penbyliaid, pennau byliaid neu hyd yn oed penbwlets yn sir Benfro. Larfa brogaod neu lyffantod ac iddynt bennau mawr, a fawr ddim arall! Am y rheswm hwnnw defnyddir penbwl yn gyffredin am dwpsyn. Beth yw’ch gair chi ac ym mha ardal?
"Peidiwch â siarad fel cawod o genllysg o amgylch ei glustiau yn barhaus" a "cofiwch fod caniatâd i ddynion rwgnach am goleri eu crysau". Cyngor i ferch ar fin priodi (Y Gymraes, 1850)

📚Awydd astudio MA gyda ni? Rydyn ni'n cynnig MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Dysgwch fwy am y cwrs gyda @sbarcsen, Cyfarwyddwr y rhaglen. ➡️Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan: tinyurl.com/yr2d6yvd tinyurl.com/2uzrxjwt
📢Darlith O’Donnell 2025 O’Donnell Lecture 🗓05/06/25 🕔5.00pm 📍@LLGCymru & Zoom 🗣Ann Parry Owen ‘Geiriadur i gadw'r iaith yn dragywydd: Thomas Wiliems (1545/6͏–c.1622) a geiriadur hanesyddol cyntaf y Gymraeg’ 🎧Welsh language lecture with translation.
Gair y dydd: banadl geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?b… "Melynach oedd ei phen na blodau y banadl" - disgrifiad awdur y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen o harddwch trawiadol Olwen. Llyfr Coch Hergest, Jesus 111, 204r, yn Digital Bodleian, digital.bodleian.ox.ac.uk
MORGI MAWR - yr enw Cymraeg ar y siarc (Lamna nasus) a fu'n ymweld ag Aberystwyth yn ddiweddar. Mae'n debygol fod yr enw Saesneg PORBEAGLE yn dod o'r iaith Gernyweg: o porth + bugel, felly "bugail y porthladd / harbwr'.

Enw arall ar Fai oedd Cyntefin "dechrau haf". Mehefin yw canol haf, Gorffennaf yw gorffen-haf. Gwnewch y gorau o bob diwrnod braf! Cyntefin ceinaf amser: Dyar adar, glas calledd. (Llyfr Du Caerfyrddin, 12gan) (=Mai yw'r amser harddaf: Yr adar yn soniarus a'r llwyni'n wyrdd)
