Barddas
@trydarbarddas
Y Gymdeithas Gerdd Dafod. Cylchgrawn Barddas a Chyhoeddiadau Barddas.
✨Eisteddfod Genedlaethol 2025 – Digwyddiadau Wrecsam!✨ 💥Dydd Llun, y 4ydd o Awst am 13:30yp ym Mhabell y Cymdeithasau - cyfrolau newydd Barddas💥 Sioned Erin Hughes fydd yn holi Mererid Hopwood, Llŷr Gwyn Lewis a Jo Heyde am eu cyfrolau diweddaraf o farddoniaeth. Dewch draw!

✨Eisteddfod Genedlaethol 2025 – Digwyddiadau Wrecsam!✨ 💥Dydd Sul, y 3ydd o Awst am 14:15yh yn y Babell Lên - O Ffrwyth y Gangen Hon💥 Nia Morais fydd yn holi tair a gyfrannodd i'r gyfrol O Ffrwyth y Gangen Hon. Sesiwn dan ofal @CwlwmCyhoeddwyr a Barddas. Croeso cynnes iawn!

✨Eisteddfod Genedlaethol 2025 – Digwyddiadau Wrecsam!✨ 💥Dydd Sadwrn, yr 2il o Awst am 17:00yh yn y Babell Lên - Mae, Mererid Hopwood 💥 Y bardd sy'n darllen a thrafod cerddi o’i chyfrol newydd, gyda Tecwyn Ifan yn canu rhai o’i ganeuon sy’n seiliedig ar ei gwaith.

Mae Rhifyn yr Haf yn eich siop lyfrau leol rŵan! 👑❤️🔥 Mynnwch gopi o rifyn rhif 366, Cylchgrawn Barddas.




Diolch i Gareth Bonello am eiriau hyfryd dros ben wedi iddo ddarllen y gyfrol Mae, Mererid Hopwood 🕊️ Bydd Mae yn lansio yn festri Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd heno am 7yh. Croeso gwresog iawn i bawb 🤍


Adolygiad ar Y Caeth yn Rhydd gan Jim Parc Nest. Mae'n werth ichi ddarllen yr adolygiad hwn yn llawn yn rhifyn Gorffennaf/Awst Barn. Diolch o galon i Emyr Lewis am ei eiriau caredig! // @CylchgrawnBarn @Jimparcnest

💥Roedd y lle yn llawn dop!💥 Lansiad Mae, Mererid Hopwood yn festri Tabernacl Caerfyrddin nos Iau. Diolch o galon i bawb a ddaeth ac i bawb a brynodd gopi o'r gyfrol. Diolch yn arbennig i'r festri, i Siop y Pentan ac i @tudurdylanjones am lywio'r noson yn braf.



✨Nodyn pwysig – lansiad Caerdydd!✨ Mae sawl un wedi tynnu ein sylw at y ffaith bod dau gapel Tabernacl yng Nghaerdydd, felly dyma gadarnhau mai yn festri Tabernacl Yr Ais bydd lansiad Mae, Mererid Hopwood yn cael ei gynnal nos fory. CF10 1AJ. Edrych ymlaen at eich gweld yno!

Gwasgu fy Motymau gan @llyrgwyn, un o gerddi ei gyfrol newydd sbon, Holl Lawenydd Gwyllt 👾🎮💥 Bydd Llŷr yn lansio ei gyfrol yng Nghaerdydd ddydd Sul am 3yp, felly cofiwch alw heibio yn Neuadd Ddawns, King's Yard, Pontcanna os ydych chi yn y cyffiniau! ✨


'Mae'r byd i gyd o fewn cloriau'r gyfrol bwerus hon.' Dyma sydd gan Manon Steffan Ros i'w ddweud am Mae, Mererid Hopwood 🕊️ Bydd y gyfrol yn lansio yn festri Tabernacl, Caerfyrddin nos Iau am 7yh. Croeso cynnes iawn i bawb.


Pennod newydd @PodlediadClera - lle mae barddoniaeth Gymraeg yn cael sylw haeddiannol! 🎙️Y traddodiad o ganu ffug-farwnadau. 🎙️Cerdd gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood. 🎙️Holi'r Prifardd Llŷr Gwyn lewis am ei gyfrol newydd. Gwrandwch yma ypod.cymru/podlediadau/cl…
A dyma hi! Pennod newydd sbon o bodlediad pennaf barddoniaeth Gymraeg, Clera. Y mis hwn cawn sgwrs gyda’r Prifardd @llyrgwyn a cherdd gan yr Archdderwydd Mererid Hopwood o’i chyfrol newydd ‘Mae’ (@trydarbarddas ) on.soundcloud.com/iRq1NgwHDwHZ62…
Ar ddydd Sul @GwylArall, roedden ni'n dathlu cyfrolau newydd @llyrgwyn (Holl Lawenydd Gwyllt) a @heyde_jo (Chwarter Eiliad). Diolch o galon i'r criw a ddaeth, a diolch i'r beirdd am sgwrs ddifyr dros ben. Diolch filoedd i @PalasPrint unwaith eto, a hir oes i @GwylArall ! 🔥💪🏼⚡️




Ein Bardd y Mis, fis Gorffennaf ydi Leo Drayton! Dyma gerdd ganddo a ddarlledwyd ar raglen Aled Hughes 🏴✊🏼❤️🔥

Digwyddiad i ddathlu cyhoeddi cyfrol newydd sbon Mererid Hopwood, Mae. Digwyddiad a agorodd @GwylArall eleni – un o 40 o ddigwyddiadau i gyd! Diolch filoedd i'r arwyr tawel a drefnodd yr ŵyl ac i wirfoddolwyr y penwythnos. Am wledd, ac am fraint cael bod yn rhan o'r bwrlwm. [1/2]
![trydarbarddas's tweet image. Digwyddiad i ddathlu cyhoeddi cyfrol newydd sbon Mererid Hopwood, Mae. Digwyddiad a agorodd @GwylArall eleni – un o 40 o ddigwyddiadau i gyd! Diolch filoedd i'r arwyr tawel a drefnodd yr ŵyl ac i wirfoddolwyr y penwythnos. Am wledd, ac am fraint cael bod yn rhan o'r bwrlwm. [1/2]](https://pbs.twimg.com/media/Gv6I9NDW0AESces.jpg)
![trydarbarddas's tweet image. Digwyddiad i ddathlu cyhoeddi cyfrol newydd sbon Mererid Hopwood, Mae. Digwyddiad a agorodd @GwylArall eleni – un o 40 o ddigwyddiadau i gyd! Diolch filoedd i'r arwyr tawel a drefnodd yr ŵyl ac i wirfoddolwyr y penwythnos. Am wledd, ac am fraint cael bod yn rhan o'r bwrlwm. [1/2]](https://pbs.twimg.com/media/Gv6I9NqWMAA0nXC.jpg)
![trydarbarddas's tweet image. Digwyddiad i ddathlu cyhoeddi cyfrol newydd sbon Mererid Hopwood, Mae. Digwyddiad a agorodd @GwylArall eleni – un o 40 o ddigwyddiadau i gyd! Diolch filoedd i'r arwyr tawel a drefnodd yr ŵyl ac i wirfoddolwyr y penwythnos. Am wledd, ac am fraint cael bod yn rhan o'r bwrlwm. [1/2]](https://pbs.twimg.com/media/Gv6I9NKWQAA0rCX.jpg)
Cofiwch bod @llyrgwyn yn lansio ei gyfrol newydd o farddoniaeth, Holl Lawenydd Gwyllt, yn y Neuadd Ddawns, King's Road Yard ym Mhontcanna ddydd Sul am 3yp 💥🔥❤️🔥 Pizza a pheint ar gael i'w prynu. Pnawn i'r teulu i gyd!
✨💥LANSIAD!💥✨ Bydd Holl Lawenydd Gwyllt, @llyrgwyn yn lansio yn Neuadd Ddawns, King's Road Yard, Pontcanna ar ddydd Sul, yr 20fed o Orffennaf am 3yp. Bydd Gruffudd Owen yn holi'r bardd a Siop Caban yn gwerthu'r gyfrol. Croeso cynnes i bawb! 🙌🏼🍕🍻