Llywodraeth Cymru Trafnidiaeth
@LlCTrafnidiaeth
Sianel swyddogol @LlywodraethCym ar gyfer trafnidiaeth. In English 👉 @WGTransport
Yn mynd i’r Eisteddfod yn Wrecsam am chydig o hwyl? Bydd yn brysur, felly gwiriwch cyn teithio, a mwynhewch! 🚆Ar y tren - @transport_wales / @tfwrail 🚌Ar y bws - @TravelineCymru 🚗Yn y car - @TraffigCymruG

🗣️Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein ymrwymiad parhaus i annog opsiynau teithio gwyrdd ar gyfer yr @eisteddfod. Bydd mwy o drenau, bysiau gwennol a llwybrau beicio ar gael i'ch tywys chi i ac o'r maes yn Wrecsam newyddion.trc.cymru/newyddion/maes…
Ym mis Mehefin, datgelodd @CyngorCasnewydd bont newydd Pont Gwastad newydd yng Nghasnewydd, carreg filltir arwyddocaol sy'n gwella cysylltedd i feicwyr a cherddwyr ar draws Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu Mae'r prosiect wedi'i ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol @LlCTrafnidiaeth
Ni’n buddsoddi £25M mwy mewn atgyweirio ein prif ffyrdd eleni. Rydym hefyd wedi helpu cynghorau i gael £120M i atgyweirio ffyrdd lleol hefyd. Bydd hyn yn helpu i lenwi ac atal miloedd o dyllau ar hyd ein ffyrdd. Cyflawni eich blaenoriaethau
Ni’n buddsoddi £800n mewn trenau a cherbydau newydd ledled Cymru. Mae sawl un yn cael eu defnyddio’n barod. Ni hefyd yn gweithio gyda @transport_wales a @NetworkRailWAL i wella gorsafoedd. Ni’n trawsnewid ein rheilffyrdd. Cyflawni eich blaenoriaethau.
📈Mae ein Hadroddiad Blynyddol 2024/25 yn datgelu bod mwy o bobl yn defnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd ac yn cael effaith gadarnhaol ar ffigurau refeniw newyddion.trc.cymru/newyddion/adro…
Ydych chi rhwng 16-21? O fis Medi, os oes gennych FyNgherdynTeithio gallwch deithio ar y bws am bris rharach. Cyflwynwch gais nawr mytravelpass.tfw.wales/cy/gwneud-cais… Mae telerau ac amodau ynghlwm wrth y cynnig. @LlC_Addysg @HwbAddysg_Cymru @transport_wales @childcomwales @SeneddIeuenctid

Nid yw hygyrchedd a chynhwysiant yn rhywbeth dewisol - maen nhw'n hawliau sylfaenol. Rydym wedi lansio Teithio i Bawb i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch a chynhwysol. Dyma beth oedd gan @KenSkatesMS i'w ddweud 👇 Cyflawni eich blaenoriaethau.
Heddiw yw diwrnod olaf y tymor i ysgolion Cymru! Cymerodd 171 o ysgolion ran yn WOW, a ariannwyd gan @LlCTrafnidiaeth, gyda 3.6 miliwn o deithiau wedi’u cofnodi yn ystod y flwyddyn academaidd. Teithio llesol oedd 71% o'r teithiau. Diolch i ddisgyblion a theuluoedd am gymryd rhan!
Lansio Teithio i Bawb i wella trafnidiaeth gyhoeddus i: • Bobl deimlo'n ddiogel a balch o’i ddefnyddio • Ei wneud yn fwy hygyrch • Ddefnyddwyr fod yn rhan o benderfyniadau a • Gwneud newid parhaol i gael gwell trafnidiaeth. llyw.cymru/lansio-cynllun…


x.com/LlywodraethCym… 👀👇
Newyddion mawr i bobl ifanc Cymru🚍 O'r cyntaf o Fedi, bydd pobl 16-21 oed yn talu'n llai am deithio ar fws gyda FyNgherdynTeithio 🙌 Hawliwch eich tocyn ar 21 Gorffennaf!
x.com/transport_wale…👀👇
🚍Rydym yn falch o gyhoeddi gwelliannau i wasanaethau bysiau @TrawsCymru_ T1 a T1X, gan gynnwys teithiau newydd gyda'r hwyr a chysylltiadau rheilffordd gwell ar y Sul yng Nghaerfyrddin. newyddion.trc.cymru/newyddion/gwas…
Today we've officially launched our £1 bus travel scheme for young people – and we’re extending it to cover everyone aged 21 and under. Gwych siarad â phobl ifanc am sut y bydd hyn yn gwneud teithio'n haws ac yn fwy fforddiadwy.
Yn dilyn craffu gan y Pwyllgor mae @KenSkatesMS wedi penodi Vernon Everitt yn Gadeirydd newydd ar @transport_wales Rydym wedi cyhoeddi’r llythyr yn amlinellu’r blaenoriaethau a’r disgwyliadau Mwy yma: llyw.cymru/trafnidiaeth-c…

Rydym an sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy fforddiadwy i bobl ifanc o dan 22 oed. Cyflawni eich blaenoriaethau. Gwrandewch ar @KenSkatesMS yn lansiad ddoe 👇 @transport_wales
Mae disgwyl i rannau o Gymru brofi tymeredd uchel iawn dros y penwythnos a chychwyn wythnos nesaf. Gall tywydd poeth achosi risgiau iechyd difrifol - dyma awgrymiadau i'ch cadw'n ddiogel yn y gwres 👇 🔗 icc.gig.cymru/gwasanaethau-a…
Mae @PrifWeinidog a @KenSkatesMS wedi lansio tocynnau bws am £1 i bobl ifanc yng Nghasnewydd heddiw. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n fwy fforddiadwy i bobl ifanc dan 22 oed deithio ar fysiau. Mae telerau ac amodau yn berthnasol. Cyflawni eich blaenoriaethau. llyw.cymru/tocyn-bws-1-i-…



Dywedodd pobl ifanc wrthym fod angen opsiynau teithio mwy fforddiadwy arnynt. Ni wedi gwrando ac yn lansio tocynnau bws rhatach i bobl o dan 22 oed. Mwy yma: llyw.cymru/tocyn-bws-1-i-…

Byddwch yn barod… Mae’r Stereophonics yn dod i Gaerdydd am 2 gyngerdd yr wythnos hon. Felly gwnewch yn siwr cyn teithio fod gennych ddigon o amser i gyrraedd ble rydych yn mynd. 🚆 @transport_wales @tfwrail 🚌 @TravelineCymru 🚗 @TraffigCymruD

Ddoe, ymwelodd @KenSkatesMS â Seidin Padeswood i weld lle bydd y gwelliannau’n cael eu gwneud fel bod @Transport_Wales yn gallu dyblu’r gwasanaethau o Wrecsam i Lerpwl fel rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru. Dyma’r hyn ddywedodd👇 Cyflawni eich blaenoriaethau.